Polisîau
Datganiad Polisi Eglwysi Unigol ar Ddiogelu
Rydym yn falch i rannu'r datganiad polisi newydd hwn i’ch galluogi fel eglwys i ddatgan yn glir eich ymrwymiad ynghylch diogelu pobl fregus. Mae hyn yn unol â ymarfer gorau ac yn ofynnol gan lawer o gwmnïau yswiriant.
Hyd yn hyn roedd y datganiad polisi i'w weld ar ddechrau Adran 3 (plant) ac Adran 4 (oedolion bregus ) yn y Llawlyfr. Rydym bellach wedi cynhyrchu dogfen ar wahân a fydd yn eich galluogi i'w rhannu a'i harddangos yn haws.
Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen yma fel PDFneu fel dogfen Word fel y gallwch ychwanegu eich logo eich hun ayb.
Mae’r Datganiad Polisi Diogelu hwn a’r canllawiau a’r gweithdrefnau sydd i’w cael yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus (gweler ôl-nodyn 1) - ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau pellach – yn ffurfio eich polisi a gweithdrefnau diogelu.
Mae'r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar sut i roi eich polisi diogelu ar waith a manylion y rolau a'r cyfrifoldebau diogelu a argymhellir yn yr eglwys leol.
Datganiad Polisi ar Ddiogelu Grwpiau Bregus
Darllenwch hefyd ein Datganiad o Fwriad yma
Polisi y Panel ar Wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chrynodeb o gymhwysedd. Cliciwch yma
Cewch fwy o fanylion hefyd yn adran 2 o'r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus ac yn yr adran DBS o'n gwefan.
Gweithio gydag oedolion?
Dim yn siŵr os dach chi angen gwneud DBS ar gyfer eich gwaith gydag oedolion bregus? cliciwch yma i ddarllen ein Rhestr Wirio cymhwysedd DBS ar gyfer gweithwyr gydag oedolion bregus.
Gweithio gyda phlant?
Dim yn siŵr os dach chi angen gwneud DBS ar gyfer eich gwaith gyda Phlant a phobl ifanc-cliciwch yma i ddarllen ein Rhestr Wirio cymhwysedd DBS ar gyfer gweithwyr plant.
Datganiad Polisi ar Recriwtio cyn troseddwyr (Atodiad 6 yn y Llawlyfr) cliciwch yma i'w darllen
Polisi ar storio, defnyddio, cadw a gwaredu datgeliadau a gwybodaeth am ddatgeliadau
cliciwch yma i ddarllen y datganiad polisi byr (Atodiad 5 yn y Llawlyfr) neu yma am y dogfen polisi a gweithdrefnau llawn
Datgeliadau Aneglur a'r Proses Apêl cliciwch yma i'w darllen
Asesiadau Risg
Mae asesiad risg yn ffordd ddefnyddiol o feddwl trwy'r risgiau a phroblemau posibl a all ddigwydd mewn unrhyw weithgaredd. Mae'n eich helpu i ddod o hyd i atebion, yn dangos eich bod wedi cynllunio'n ofalus ac yn eich helpu i gymryd y camau rhesymol angenrheidiol i gadw pawb yn ddiogel. Mae hefyd yn gallu diogelu enw da'r sefydliad. Mae’n ffordd dda o rannu gwybodaeth bwysig gydag aelodau eraill y tîm i sicrhau bod pawb yn dilyn arfer gorau posibl i weithredu mewn modd diogel ac atebol. Cliciwch yma i weld ein Canllaw cam wrth gam a ffurflen asesiad risg neu yma am ddogfen Word
Polisiau Statudol Genedlaethol:
Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod. Gallwch ddarganfod mwy am weledigaeth a nodau’r gweithdrefnau yma.
Beth yw eu pwrpas: Mae’r Gweithdrefnau yn helpu ymarferwyr i gymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac (Adran 7 Cyfrolau 5 a 6 ar drin achosion unigol) i’w harfer.
Trwy’r Gweithdrefnau oll, fe welwch ‘Awgrymiadau Ymarfer’. Tra bod y Gweithdrefnau yn dweud wrthych beth i’w wneud, mae’r awgrymiadau am arfer yn rhoi gwybodaeth am sut i wneud y dasg. Mae’r awgrymiadau am arfer yn tynnu ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf mewn arfer.
I bwy y maent: Bwriedir i’r gweithdrefnau hyn fod yn ganllaw i arferion diogelu pawb a gyflogir yn y sector statudol, trydydd (gwirfoddol) a phreifat mewn iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill. Maent yn gymwys i’r holl reolwyr sy’n gweithio yng Nghymru - boed wedi eu cyflogi gan asiantaeth a ddatganolwyd neu beidio.
Cwestiynau Cyffredin: dilynwch yn linc yma