Diogelwch ar-lein
CADW BLANT YN DDIOGEL AR LEIN
mae'r mwyafrif o linciau isod yn arwain at wefannau allanol iaith saesneg,
Mae "NSPCC Learning" wedi cyhoeddi gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein yn ystod y gyfnod clo coronafirws. Maent wedi casglu adnoddau ynghyd (gwybodaeth wedi'i diweddaru ar gyfathrebu â phlant trwy'r cyfryngau cymdeithasol, rhedeg gwasanaethau ar-lein, awgrymiadau i rieni a gofalwyr a chyngor i'w rhannu â phlant) i'ch helpu i ddeall a delio â'r risgiau y mae plant yn wynebu ar-lein. online safety during the coronavirus lockdown linc NSPCC
Mae NSPCC hefyd wedi partneru ag O2 i greu Net Aware i helpu rhieni a gofalwyr a allai fod yn poeni am eu plentyn yn rhannu fideos a delweddau ar-lein. Mae'r cynnwys yn trafod pam mae plant yn defnyddio apiau fel TikTok a Snapchat, ac yn darparu arweiniad i rieni a gofalwyr i helpu i gadw eu plant yn ddiogel gan gynnwys: gosod eu cyfrif yn breifat; eu hatgoffa i beidio â phostio lleoliadau mewn amser real na rhannu gwybodaeth bersonol; a siarad â nhw am secstio (sexting) a rhannu lluniau noeth.
Mae gan CEOP becynnau gweithgaredd a chyngor ar sut i gadw plant o bob oed yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys wrth hapchwarae gartref, rhannu delweddau, defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae'r gweithgareddau diogelwch syml, 15 munud ar-lein hyn ar gael yma here.
Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch ar- lein neu os ydyach yn poeni am sefyllfa ar lein ewch i'r wefan CEOP neu i'r NSPCC
Canllaw i apps, gemau a safleoedd cyfryngau cymdeithasol: Net Aware: Your guide to social networks, apps and games (net-aware.org.uk)
Dewch i gael hwyl gyda'r teulu cyfan a darganfod faint mae'ch plentyn yn ei wybod am gadw'n ddiogel ar-lein gyda'n cwis diogelwch ar-lein. Mae yna ddau fersiwn ar gael, un ar gyfer plant dan 13 oed ac un ar gyfer pobl dros 13 oed.
Ciciwch yma am cwis ac adnoddau defnyddiol.