Y Broses rhyngom ni a’n cleientiaid:-
1. Sefydlu Cytundeb rhwng y Panel a’r Asiantaeth allanol
2. Gwirfoddolwr/Gweithiwr i dderbyn ffurflen o’r Swyddfa uchod wedi i’r Mudiad/Cwmni wneud cais uniongyrchol i’r Panel
3. Wedi derbyn y ffurflen, cyfrifoldeb y Mudiad/Cwmni fydd sicrhau bod y ffurflen yn cael ei chwblhau a’i dychwelyd atom, wedi ei chydarwyddo
4. Bydd y Panel yn sicrhau bod unigolyn/ion o fewn y Mudiad/Cwmni wedi eu hyfforddi i wirio y ffurflenni
5. Cynigir gwasanaeth hyfforddiant i’r Mudiadau/Cwmnïau a fydd yn defnyddio’r Corff Cysgodol yn unol â Chod Ymarfer y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), Datganiad Polisi ar Ddiogelwch Cadw, Trin, defnyddio, Dal a Chael gwared â Datgeliadau a Gwybodaeth Datgeliad a Datganiad Polisi ar Recriwtio Cyn-droseddwyr
6. Wedi derbyn y ffurflen gais yn ôl i’r Swyddfa uchod, cyfrifoldeb y staff fydd gwirio’r Ffurflen ar gyfer unrhyw wallau, a’u cywiro
7. Bydd y Blaen Lofnodwr Y Parch Meirion Morris yn arwyddo a chwblhau Adran Y, cyn anfon y ffurflen i’r CRB
8. Yr unig rai fydd yn derbyn Datgeliad oddi wrth y CRB fydd yr Ymgeisydd â’r Blaen Lofnodwr
9. Bydd y Blaen Lofnodwr yn trosglwyddo’r Datgeliad i berson awdurdodedig o fewn y Mudiadau/Cwmnïau yr ydym yn gweithio fel Corff Cofrestredig drostynt
10. Ni fydd y Panel uchod yn prosesu unrhyw ffurflenni oni fydd taliad llawn yn amgaeedig gyda’r ffurflen gais
11. Cyfrifoldeb y Panel uchod fydd trosglwyddo taliadau i’r CRB.
12. Bydd y penderfyniad recriwtio - wedi i’r Mudiadau/Cwmnïau gael gwybodaeth Datgeliad - yn gyfrifoldeb arnynt hwy, nid ar y Panel
13. Ni fydd y Panel uchod yn cynnig cyngor i’r Mudiadau/Cwmnïau pan ddigwydd datgeliad aneglur ar Wirfoddolwr/Gweithiwr sydd wedi gwneud cais drwy’r Corff Cysgodol