| Hafan |
|
|
|
|
Croeso i wefan y Panel Diogelwch Cydenwadol. Sefydlwyd y Panel yn 2001 pan gyhoeddwyd ein Gweithdrefnau 'Er Mwyn ein Plant'. Bu i'r tri enwad, sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru gytuno i gydweithio er mwyn sicrhau polisi diogelwch oddi mewn i'n heglwysi. Mae amddiffyn plant/ieuenctid ac oedolion bregus yn rhan allweddol o'n gwaith bob dydd gan ein bod yn Gorff Cofrestredig sydd yn medru gwirio ein Gweinidogion/Staff a'n Gwirfoddolwyr drwy'r Biwro Cofnodion Troseddol a hynny yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Yn 2008 bu i ni ehangu ein gwaith drwy fynd yn Gorff Cysgodol yn ogystal a Chorff Cofrestredig, golyga'i hyn bod modd i ni sicrhau datgeliadau i Gyrff neu Asiantaethau y tu allan i'n henwadau.
Gallwch gysylltu â ni mewn amryw o ffyrdd:- Ein cyfeiriad post yw:- Panel Diogelwch Cydenwadol Uned 1 Vale Parc Ystad Ddiwydiannol Colomendy Dinbych LL16 5TA
Ein rhif ffôn yw: 01745 817584 Oriau agored arferol y Swyddfa yw Dydd Llun i Ddydd Mercher 9.00yb tan 4.00yh. Tu allan i'r oriau hyn gallwch adael neges ar ein peiriant ateb a byddwn yn cysylltu yn ôl â chi mor fuan ag y bo modd. Neu I gysylltu â ni drwy e-bost defnyddiwch y dudalen 'Cysylltu â ni' uchod
|





